Cwpan Rygbi'r Byd 2011

Cwpan Rygbi'r Byd 2011
Ipu o te Ao Whutupōro 2011
Manylion y gystadleuaeth
Cynhaliwyd Seland Newydd
Dyddiadau9 Medi – 23 Hydref
Nifer o wledydd20
Safleoedd
Pencampwyr Baner Seland Newydd Seland Newydd
Ail Baner Ffrainc Ffrainc
Trydydd Baner Awstralia Awstralia
Manylion twrnament
Gemau48
Torf1,477,294 (30,777 y gêm)
Prif sgoriwr(wyr)Baner De Affrica Morné Steyn (62)
Nifer fwyaf o geisiauBaner Lloegr Chris Ashton
Baner Ffrainc Vincent Clerc
(6 chais)
2007
2015

Cynhaliwyd Cwpan Rygbi'r Byd 2011 yn Seland Newydd rhwng 9 Medi a 23 Hydref 2011. Dyma oedd y seithfed tro i Gwpan Rygbi'r Byd cael ei gynnal a'r tro cyntaf i Seland Newydd gynnal y gystadleuaeth ar eu pen eu hunain - cynhaliwydl Cwpan Rygbi'r Byd 1987 ar cyd rhwng Seland Newydd ac Awstralia.

Dechreuodd y broses o gyrraedd Seland Newydd ar 29 Mawrth 2008 wrth i Mecsico drechu Saint Vincent a'r Grenadines 47-7 yng ngemau rhagbrofol y Caribî[1] a daeth y gystadleuaeth i ben ar 23 Hydref wrth i Seland Newydd drechu Ffrainc 8-7 yn y rownd derfynol ym Mharc Eden, Auckland a thorri eu henwau ar y tlws am yr ail dro.

Roedd y canlyniad yn golygu mai dyma'r trydydd tro i'r gystadleuaeth gael ei hennill gan y tîm cartref wedi i Seland Newydd ennill ym 1987 a De Affrica ym 1995.

  1. "Mexico prove too strong for hosts". 2008-03-29. Unknown parameter |published= ignored (help)

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy